Arddangosfa

Holl destunau: Sarah Pogoda

Ond: "Ni ellir boddi ddwywaith yn yr afon", "Cerdded ar Ddŵr" ac Araith Bangor": Hannah Siwutters


Cludo golau'r Ymoleuo yn ei flaen: Max Horkheimer a Friedrich Pollock

Llun: Max Horkheimer gyda Llusern, golau'r Ymoleuo.

Yn ei ffilmiau cyfweld, mae Alexander Kluge yn aml yn defnyddio'r gannwyll fel trosiad am Ymoleuo. Sylwer ar osgo ymarferol Horkheimer yn y llun hwn: mae'r llusern, a gaiff ei gario yn llaw dde Horkheimer (yn wahanol i Iesu yn narlun Hunt, gweler isod), yn sicrhau bod ganddo'r gallu i ganfod ei ffordd, yn arbennig yn y tywyllwch. Mae rhywun sy'n gallu canfod ei ffordd yn rhywun sy'n hapus, fel y gwelir yn y llun hwn: mae Horkheimer yn gwenu.

Tynnwyd y llun gan un o gyfeillion oes Horkheimer, sef Friedrich Pollock - un arall o oleudai Ysgol Frankfurt.

Yn wahanol i'r golau a roddir gan lusern neu gannwyll, mae golau'r camera yn un byrhoedlog. Fodd bynnag, fe wnaeth y golau fflachiog hwn, gwibiog fel ag yr ydoedd, lwyddo i anfarwoli'r deallusrwydd annibynnol yn pefrio o lygaid Horkheimer.

 

Cyswllt i bethau eraill a arddangosir:

Gwrthrych: Tystysgrif yn nodi dyfarnu bathodyn anrhydedd i Friedrich Pollock gan ddinas Frankfurt am Main yn 1969 .

Gall dinasoedd hefyd brofi fflachiadau o athrylith. Dyna hanes dinas Almaenig Frankfurt am Main pan ddyfarnodd fathodyn anrhydedd i Friedrich Pollock am ei lwyddiannau yn y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol. Roedd Friedrich Pollock nid yn unig yn gyfaill i Max Horkheimer - goleudy amlycaf y Sefydliad ynghyd â Theodor W. Adorno - ond roedd hefyd yn gyd-sefydlydd y Sefydliad ac yn angor cadarn iddo yn ystod cyfnodau o alltudiaeth. Er ei fod wedi ffoi o grafangau'r Natsïaid yn yr Almaen (roedd yn Efrog Newydd o 1934), fe sicrhaodd Friedrich Pollock bod y Sefydliad yn goroesi'n ariannol a thrwy hynny oroesiad miloedd o ddeallusion a oedd dan erledigaeth.

 

 

Delwedd: William Holman Hunt: The Light of the World (fersiwn Manceinion, 1851-1856)

 

 



Fe Gerddaf â’m Llusern Cân Gŵyl Farthin

 

 

Fe gerddaf â’m llusern,

Cerdda’r llusern â mi.

Yn y nen, disgleiria’r sêr,

Disgleiriwn ninnau islaw.

Olau fy llusern

Paid diffodd,

Rabimel, rabamel, rabwm.

 

 

Fe gerddaf â’m llusern,

Cerdda’r llusern â mi.

Yn y nen, disgleiria’r sêr,

Disgleiriwn ninnau islaw.

Tywyll fy llusern,

Af adref,

 

Rabimel, rabamel, rabwm.



Darlun 1: Carlota Pollock a'i gŵr Friedrich yn eu cartref yn Santa Monica, California (1950).

Sylwch ar y ffordd gender-benodol y pennir lle: Mae Carlota Pollock yn eistedd mewn cadair yn yr ardd, yn darllen llyfr, er mwyn pleser i bob golwg. Tra caiff Friedrich Pollock, ei bortreadu fel goleudy'n eistedd wrth ei ddesg yn gweithio (gyda golwg banoptegol o'i wraig yn yr ardd).

 

Darlun 2: Carlota Pollock a chyfeilles, ynghyd â Friedrich Pollock, wrth ochr car yn Montagnola (Y Swistir).

Tynnwyd y lluniau gan Annegret Tietzsch, a gyflogwyd gan Friedrich Pollock i fod yn gydymaith i'w wraig Carlota (ca. 1961).

Mae goleudai, er y gallant ymddangos yn ddilechdidol oleuedig, yn tueddu i berfformio'n batriarchaidd.

 

Ffilm: “Marwolaeth y ddynes dramor” (Der Tod der fremden Frau):

Mae Alexander Kluge yn ail-greu'r math hwn o wrthrychu merched / defnyddio merched yn ei ffilm fer “Marwolaeth y ddynes dramor” (“Der Tod der fremden Frau. Le Liebestod”). Yn y ffilm hon mae Kluge'n adolygu canrifoedd o batriarchaeth imperialaidd a ramanteiddiwyd fel "Liebestod" mewn opera: Richard Wagner “Tristan and Isolde”, Giacomo Meyerbeer “L’Africaine”, Henry Purcell “Dido and Aeneas”, Christoph Willibald Gluck “Armide”. Mae'n cysylltu'r adolygiad hwn â chenedlaethau o'r 'fenyw egsotig' fel nwydd a gwrthrych i'w harddangos ym myd y patriarch trefedigaethol.

 

Oherwydd golygfeydd o drais a noethni (sy'n anochel wrth adolygu hanes darostwng ac ecsploetio merched), golygwyd y ffilm a ddangosir yn ein harddangosfa.



Ochr dywyll Ymoleuo

Mae'r lleuad yn rheoli'r nosau, mae'r lleuad yn rheoli'r llanw.

(Mozart, Y llong hud, 1799)

 

Mae goleudai'n gaffaeliad enfawr i longwyr sydd eisiau mordwyo drwy'r dyfroedd peryglus ger y glannau. Yn sicr maent yn hollbwysig i longwyr dieithr, ond hefyd i rai nes i gartref sy'n canfod eu hunain yn ddamweiniol mewn mannau anghyfarwydd. Wedi taith faith ar y môr mae llongwyr yn dyheu am gyrraedd diogelwch yr harbwr.

Fodd bynnag, gall llawer o drychinebau ddigwydd o fewn golwg i'r lan, gyda thywydd garw a cheryntau cryf ac anghyfarwydd yn troi'r glannau'n berygl enbyd. Dyna oedd tynged y Royal Charter pan gafodd ei tharo gan storm enbyd oddi ar arfordir Môn ar noson 25-26 Hydref 1859. Dyna hefyd fu ffawd HMS Conway ganrif bron yn ddiweddarach. Roedd yn hwylio'n ôl i'w chartref yn nociau Lerpwl (ar ôl cael ei hadleoli oddi yno i Fangor yn 1941 pan fomiwyd Lerpwl yn enbyd) pan gafodd ei chario gan lanw a cherrynt oedd yn anghyfarwydd i'r criw. Roedd ardal wledig Môn yn ymddangos yn lle diogel i HMS Conway oroesi'r Rhyfel Byd.

Ond nid felly y bu.

 

Fe oroesodd HMS Conway yr Ail Ryfel Byd, ond syrthiodd yn ysglyfaeth i ochr arall dywyll Ymoleuo:

Pan ddaeth yn amser i HMS Conway ddychwelyd adref i Lerpwl ar 14 Ebrill 1953, fe wnaeth meddwl yn haniaethol heb roi ystyriaeth i realiti orffen ei thaith gartref ar ôl dim ond dwy awr wedi iddi adael Plas Newydd ar y Fenai. Bu'r miloedd o bobl a ddaeth i ffarwelio'n llawen â HMS Conway yn dystion i'r llong yn gael ei gyrru ar y lan ger Pont y Borth a thorri'n ddarnau.

Collodd y Capten Eric Hewitt yr HMS Conway oherwydd nad oedd yn ddigon cyfarwydd â cheryntau lleol y Fenai i sicrhau y gallai'r llong hwylio'n ddiogel drwy'r Swellies. Yn syml, roedd yn rhy hwyr i'r llanw. Ond nid enghraifft o 'amseru gwael' oedd hyn. Yn hytrach, pe bai Capten Hewitt wedi defnyddio arbenigedd llongwyr lleol Môn, ni fyddai ei anwybodaeth o'r amodau gwirioneddol ar y diwrnod hwnnw (diffyg cyswllt â realiti - neu hiraeth am gartref efallai?) wedi arwain at yr anffawd. Anffawd a gynrychiolwyd yn ddiweddarach yn y fformiwla a ganlyn:

 

U = 11.2 0.057W 2 cos D 3.67(R 3.6)cm s 1

 

Fel nodyn wrth fynd heibio

 

Fe wnaeth diffyg cyswllt cyffelyb â realiti gyfrannu at enwogrwydd fformiwla arall

 

Pr [TA<1, TB<1] = Φ2 (Φ-1 (FA (1)), Φ-1 (FB (1)), Υ)

 

Fodd bynnag, nid yn unig fe wnaeth yr Ail Ryfel Byd gynyddu amwysedd y glannau a'r dociau, ond hefyd fe drodd goel gwlad a'i ben i waered: Trodd y môr agored honedig ddiogel yn faes brwydr, ac roeddech yn fwy tebygol o golli eich bywyd yno nag ar lannau garw'r arfordir.

Peidiwch ag anghofio: Mae goleudai'n brin yn y môr agored. Ond sut i symud o gwmpas yn y tywyllwch, pan mae'r sêr yn cuddio ac erchyllterau rhyfel yn eich wynebu. Mae tywyllwch yn ddiwedd.    


Ni ellir boddi ddwywaith yn yr un afon

Sut mae mynd i'r afael â chwestiwn marwolaeth annhymig y bardd a'r pregethwr Dafydd Tomos ar noson stormus 30 Mawrth 1822?

Wrth ei enw barddol, Dafydd Ddu Eryri, yr adwaenid ef ac fe’i hystyrir ef yn dad i genhedlaeth o feirdd yn Arfon. Ysbrydolwyd ei awdl fuddugol yn Eisteddfod y Gwyneddigion yn 1790 gan ddaliadau gwrth-gaethwasiaeth meddylwyr cyfoes yr Oleuedigaeth. Ceisiodd gynnal safonau barddol ac fel athro ysbrydolodd nythaid o dyddynwyr a chwarelwyr tlawd i farddoni a pherfformio.

Ar noson 30 Mawrth 1822, yn dilyn ymweliad â rhai o glerigwyr llengar Môn, cerddodd adref i bentref Llanrug o Fangor ar ôl mwynhau cyfeddach tafarndai'r ddinas. Wrth geisio croesi nant fechan yr Afon Cegin ger Pentir, syrthiodd i ychydig fodfeddi o ddŵr a boddi.

Cyfansoddwyd teyrngedau iddo gan ei gyfoedion, ac amdano ef y canodd R. Williams Parry -

 

Hon ydyw’r afon, ond nid hwn yw’r dŵr

A foddodd Ddafydd Ddu

 

 (Ymson Ynghylch Amser)

 

Cerdded ar Ddŵr

Yn 1867 cyhoeddodd y llwyrymwrthodwr a phamffledwr John Rees - awdur y pamffled “Intoxicating drink and complete abstinence, or, Reasons against the habit of drinking intoxicating drinks, in conjuction with the response to counter-arguments that may arise” - y byddai'n cerdded ar ddŵr dros y Fenai o Fangor "heb golli ei gydbwysedd." Ymgasglodd torf o filoedd ar fryn y Garth i'w wylio'n ymddangos mewn crwyn olew stiff a oedd yn cynnwys cyfarpar niwmatig. Roedd y gymeradwyaeth yn fyddarol.

Yn ôl y papur newydd lleol, “When subsequently he sat down in the shallows and taking two small oars from a pocket, rowed himself in a sitting position across the Straits to the Anglesey shore - the cheers made the windows rattle half mile away." Dychwelodd o sir Fôn yn gorweddian yn ddidaro ar y tonnau ac fel encore cerddodd ar y dŵr am rai llathenni cyn cyffwrdd â'r gwaelod ac yna ymlwybro'n fuddugoliaethus i'r lan.

 

Araith Bangor

Erbyn i David Lloyd George ddod yn Brif Weinidog yr ymerodraeth fwyaf ar y ddaear, roedd aelodau dirwestol pybyr y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru yn wyliadwrus o orchestion lledrithiol eu cyn-bencampwr ac yntau wedi brasgamu o’i ddinodedd cymharol a'i sêl dros achos Cymru i uchelfannau'r sefydliad yn Llundain.

Ym Mangor yn 1915 roedd Lloyd George (a gawsai'r llysenw 'yr Afr' am ei odinebu) yn awyddus i ail-sefydlu ei boblogrwydd gartref. O flaen cynulleidfa o anghydffurfwyr dirwestol traddododd 'Araith Bangor' a datgan "Mae diod yn gwneud mwy o ddifrod yn y rhyfel na'r holl longau tanfor Almaenig gyda'i gilydd."

Dim ond o drwch blewyn yr osgowyd cael gwaharddiad llwyr ar alcohol. Serch hynny, daeth y Bwrdd Rheoli Canolog (Masnachu Gwirod) i rym o dan ddarpariaethau rhyfel Deddf Amddiffyn y Deyrnas. Cwtogwyd yn llym ar oriau agor tafarndai gan Ddeddf Gwirodydd Anaeddfed (Cyfyngiad) 1915 a Deddf Trwyddedu'r un flwyddyn a chodwyd y dreth ar alcohol. Bu'r ddeddfwriaeth, a oedd yn ymdrech i gyfyngu ar y bygythiad i gynhyrchiant drwy or-yfed ymysg y dosbarth gweithiol, mewn grym bron iawn yn ddigyfnewid am y rhan orau o ganrif.

 

Testun a ysgrifennwyd gan Hannah Siwutters


Siaced achub? Dyfeisiadau arnofio personol - arwyddion athrylith at y dyfodol

Bwriad dyfais arnofio personol - boed ar ffurf belt neu siaced achub, siwt arnofio neu fag hynofedd - yw cadw unigolion rhag suddo mewn dŵr, ac mewn trychineb fe all achub eich bywyd. Fodd bynnag, nid mater o ddyfeisiadau'n cael eu llunio oherwydd anghenraid ydoedd yn hanes llunio dyfeisiadau arnofio personol. I’r gwrthwyneb, cawsant eu dyfeisio oherwydd yr ysbryd o ddarganfod, sy'n nodweddiadol o'r holl ddynoliaeth. Felly, daeth y syniad o ddyfeisiadau arnofio personol wrth i ddyfeiswyr feddwl am offer a fyddai'n caniatáu i bobl aros dan y dŵr am gyfnod hir, er mwyn archwilio'r byd tanddwr a oedd, tan hynny'n, terra incognita i bobl.  Ceir tystiolaeth o hyn yn y cyfnod canoloesol hwyr, ond yn gynyddol yn ystod y Dadeni. Gadawodd Vegetius nodiadau yn “De Re Militari” (1476), ac felly hefyd Veranzio yn ddiweddarach yn 1595. Gadawodd Leonardo Da Vinci frasluniau o feltiau achub (gweler delwedd 1); yr enwocaf fodd bynnag yw gwahanol fathau o siwtiau deifio wedi eu gwneud o gorc (gweler delwedd 2). Y bwriad oedd nid achub dynoliaeth y Dadeni, ond yn hytrach ei galluogi i archwilio a meistroli'r holl fydoedd - uwchben ac o dan y dŵr.

Arweiniodd y cywreinrwydd hwn, a hybwyd hefyd gan yr awch filwrol am goncro'r byd, at syniadau am siwtiau a fyddai'n galluogi i ddynion a merched arnofio ar wyneb dŵr. Ond dim ond yn y canrifoedd o ddiwydiannu a ddilynodd y gwelwyd y gwrthrychau hyn yn cael eu gwireddu a'u defnyddio i ddibenion achub o'r môr. Rhagwelwyd eu gwir ddefnydd mewn gwirionedd ganrifoedd ynghynt (gweler delwedd 3).

 

Darlun 1: Leonardo Da Vinci: “Sketch of a lifebelt” (Paris Manuscript B, f. 81 v), ca. 1488 - 1490

Darlun 2 : Jean-Baptiste de La Chapelle: “Scaphandre” (Tafel IV, in: Jean-Baptiste de La Chapelle, Herrn de la Chapelle gründliche und vollständige Anweisung wie man das von ihm neu erfundene Schwimmkleid oder den sogenannten Scaphander nach untrüglichen Grundsätzen verfertigen und gebrauchen sole), Warsaw, 1776

Darlun 3: “Life jacket memorial Greece”, 2017



Llechen o Longddrylliad Pwll Fanog

Mae'r llechen hon yn tystio i gyn lleied rydym yn ei wybod. Nid ydym yn gwybod erbyn hyn pryd yr adeiladwyd y llong na phryd y suddodd. Mae amrywiol ddulliau ymchwilio (e.e. dyddio AMS) yn awgrymu cyfnod rhwng 1430 OC a 1530 OC, ac mae'n annhebygol i'r llong suddo ar ôl 1630 OC. Byddai hynny'n golygu fod y llong yn cyd-oesi â Harri'r VII. Felly, gwelodd sefydlu Brenhinlin y Tuduriaid.

 

Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am berchennog y llong, nac am y berchennog a diben y cargo, sef llechi. Mae ysgolheigion wedi awgrymu bod y llong yn cludo cargo o lechi gleision Llanberis i Fiwmares i'w gwerthu a'u hallforio.

Nid ydym yn gwybod beth wnaeth i'r llong suddo ac ni wyddom chwaith a gollodd pobl eu bywydau yn y drychineb. Rydym yn gwybod i sicrwydd nad oedd unrhyw oleudy i sicrhau taith neu lanio diogel.

 

A fu unrhyw ymdrechion i arbed y cargo?

Nid oedd unrhyw siwtiau deifio ar gael pryd hynny, er fod pobl ar draws Ewrop yn dechrau meddwl am ddyfeisiadau o'r fath (gweler tudalen xy).

Hyd yn oed pe bai rhai ar gael, mae gwely'r môr yn y fan dan sylw yn arw. Ceir goleddf serth yno sydd dros 20m o ddyfnder, yn dibynnu ar y llanw. Mae'r llongddrylliad ei hun hanner ffordd i lawr y goleddf hwn. Ymhellach, ceir clogwyn hyd at 4m o uchder i'r gogledd-orllewin o'r safle, tuag at waelod o goleddf, a gellir dod o hyd i lechi yn y fan honno o hyd.

Heb unrhyw offer priodol ar gael bryd hynny, nid oedd modd mynd at y cargo i'w adfer.

 

Ar wahân i longddrylliad Pwll Fanog, nid oes unrhyw long neu ddull arall o gludiant yn gysylltiedig â'r diwydiant llechi cynnar ym Mhrydain wedi ei diogelu, heb sôn am gyda chargo cyflawn o lechi. Fe allech feddwl ei fod yn unigryw. Ond beth am y 40,000 tunnell o gargo? Roedd y llong yn unigryw, ond nid felly'r llechi hyn.