Mae yntau'r swyddog Rwsiaidd
a gyfebrodd fenyw anymwybodol,
(ac a wnaiff ildio i'w dynged yn ddiweddarach oherwydd hysbysiad
mewn papur newydd),
sef yr Ardalyddes von O.,
yn symud gyda'i wŷr meirch
ar Nos Galan 1799 ar lwybrau'r mynyddoedd
tuag at Chur/
Dim ond yn lled ddiweddar
safai byddin Suworow,
yr oedd y Rwsiad yn perthyn iddi,
ger Zurich/
Y Cadfridog Alexander Suworow (1730-1800)
Mae mynyddoedd rhewllyd, cadarn y Grisons
yn bwrw trem
ar y newidiadau sy'n ysgubo drwy Ewrop/
Oedi byr cyn arfer trais
yn erbyn gwrthrychau /
Mae'r aelod profiadol o'r blaid,
a fu'n cynorthwyo cadeirydd blaenorol Cynghrair Myfyrwyr Sosialaidd yr Almaen
yn syfrdan o sylwi
ar y dorf o gymrodyr sydd wedi bod yn aros am sawl munud
(isdeitl ar goll, ar y panel Almaeneg mae'r geiriau: o flaen drws swyddfa is-ganghellor y Brifysgol)
Nid ydynt yn dymuno dinistrio
panel o wydr trwchus drud,
er eu bod yn dymuno mynd i mewn i'r swyddfa
"Er mwyn ei meddiannu" /
Yn sydyn reit mae gan y cymrodyr hynny
sy'n pwyso ar ddrws y swyddfa
hwrdd ymladd yn eu dwylo /
Ac mae gwydr drws y
swyddfa'n deilchion
Ar 5 Mai 1818
Yn y canol uchaf:
Ofydd
* 5 Mai 1818 yn Nhrier † 14 Mawrth 1883
Weithwyr y Gwledydd, Dewch Ynghyd!
Tai'r dosbarth gweithiol yn Llundain tua 1818
Yma o 'nghwmpas i gorwedda cyrff celain fy ffrindiau,
ond ni a orfu /
Ni a orfu, ond yma o'n cwmpas ni
gorwedda cyrff celain fy ffrindiau / Heinrich Heine, o Hymn 1844
Timbuktu, 31.12.1799 /
Cyrhaeddodd y patrol yr wythnos o'r blaen,
gwŷr meirch Cuirassiersheavy Ffrainc,
y daeth eu corsledau, yn llwythog ar gefnau mulod,
a ddilynodd y ceffylau,
a ddaeth ynghyd am wledd.
Efallai y collwyd y chwyldro ym Mharis
ond gall
godi eto ar unrhyw adeg
yn Affrica /
Mae'r milwyr yn cario llyfrau,
pob un yn nofel.
Ar y chwith uchaf:
"Y Rhwyg!" "Mae popeth yn llifo"
Chwyldro / Tryblith / Newid Radical / Gwrthryfel
Chwyldro diwydiannol / "Dinistr Creadigol" / "Gwerth dros ben"
Tanddaearol / Dicter Poblogaidd / Ymladd dros Rhyddid
Streic Gyffredinol / Ildiad / Cychwyn Newydd
Fienna 1848
Ar y gwaelod:
Brasluniau gan David o Lw y Cwrt Tennis, 20 Mehefin 1789
„Creadur byw yw chwyldro sy'n dwyn yr annisgwyl yn ei sgil"
Mae dyn yn trigo'n farddonol
Ar y chwith uchaf + a'r dde uchaf:
Martin Heidegger, Darlith a gynhaliwyd ar 6 Hydref 1951 ym Mühlerhöhe
"... yn farddonol y triga dyn ..."
[...] Mae ein trigfan dan ormes
prinder tai /
Hyd yn oed pe na bai hynny, mae ein trigfan heddiw
dan ormes gwaith
yn ansicr gan yr ymchwil am fudd a llwyddiant,
dan gyfaredd busnes adloniant a hamdden /
"... yn farddonol y triga dyn ..."
Ai'n farddonol y trigwn?
Yn ôl pob tebyg, trigo'n gyfan gwbl anfarddonol a wnawn ni /
Os hynny, ai gau yw geiriau'r bardd;
ai anwir?
Nage / Caiff gwirionedd ei eiriau
ei gadarnhau yn y modd mwyaf anhygoel /
Oherwydd yr unig fodd y gall trigo fod yn anfarddonol,
yw oherwydd ei fod yn ei hanfod yn farddonol / Er mwyn i ddyn fod yn ddall,
rhaid iddo barhau i fod o ran natur yn fod a all weld.
Nid aiff darn o bren byth yn ddall /
Ond pan aiff dyn yn ddall,
mae cwestiwn yn wastad ai rhyw nam neu ddiffyg a achosodd iddo golli ei olwg
neu a yw oherwydd digonedd a gormodedd /
Yn yr un gerdd sy'n myfyrio am fesur pob mesur, dywed Hölderlin:
"Ai dichon fod un llygad yn ormod gan y Brenin Oedipus /"
Felly, efallai fod ein trigfan anfarddonol
a'i anallu i fesur,
yn deillio yn od ddigon o ryw ormodedd o fesur a chyfrifo ffyrnig /
[...] Y barddonol yw'r gallu sylfaenol
i drigo
[...] "Cyn belled â bod Caredigrwydd,
y Pur, yn dal yn ei galonnau,
heb fesur ei hun mewn tristwch
yn erbyn y Duwdod ... "
O SIGMA i OMEGA
Ar y chwith uchaf + ar y chwith uchaf:
"Ymosodiad ar ddrws gwydr trwchus " / 2018 (3x)
Oedi byr cyn arfer trais
yn erbyn gwrthrychau /
Mae'r aelod profiadol o'r blaid,
a fu'n cynorthwyo cadeirydd blaenorol Cynghrair Myfyrwyr Sosialaidd yr Almaen
yn syfrdan o sylwi
ar y dorf o gymrodyr sydd wedi bod yn aros am sawl munud
(isdeitl ar goll, ar y panel Almaeneg mae'r geiriau: o flaen drws swyddfa is-ganghellor y Brifysgol)
Nid ydynt yn dymuno dinistrio
panel o wydr trwchus drud,
er eu bod yn dymuno mynd i mewn i'r swyddfa
"Er mwyn ei meddiannu" /
Yn sydyn reit mae gan y cymrodyr hynny
sy'n pwyso ar ddrws y swyddfa
hwrdd ymladd yn eu dwylo /
Ac mae gwydr drws y
swyddfa'n deilchion /
Llais o'r Ochr:
Yn y nos, mae'r wraig yn gweithio'r offer /
Mae diwrnodau gwaith Mr Burg yn caniatáu iddo fynd am awyr iach a cherdded hyd y sgwariau am ryw 15 munud, ddwywaith y dydd.
Am filoedd o flynyddoedd, bu pobl yn trigo yn eu tai.
Y tu allan: Llofrudd, Diwydiant, y Byd.
Yn ystod yr holl amser hwnnw, erys emosiynau'n yr un fath.
Yn y canol yn y gwaelod:
Mae'n pelydru mewn trigfan dywyll, fach iawn, cysur y byd newydd
"Rheswm yr eginyn tyner"
URUK, 8000 o flynyddoedd yn ôl
"Peidiwn â gadael i rym pobl eraill, na'n diymadferthedd ni ein hunain, ein gwneud yn llesg."
"Anifail cydbwysedd yw rheswm"
"Rheswm" yn erbyn "mynydd rhew"
Yn ôl sylwebaeth ar Jaques Derrida, mae'n bosib bod y term modern "ratio" neu "rationality" yn Saesneg yn tarddu o'r gair ARRAISONNEMENT.
Ystyr y gair hwnnw mewn Hen Ffrangeg yw: archwilio cargo llong cyn iddi hwylio.
Ar y dde uchaf:
Adeiladu Twnnel yn Anghyfreithlon
Theori iaith Wittgentein
"Felly mae corff organig popeth byw
yn fath o beiriant dwyfol
neu'n awtomasiwn naturiol
sy'n tra ragori ar yr holl awtomata artiffisial ...
peiriannau, sef organebau byw,
yw peiriannau natur wedi'r cwbl hyd yn oed yn eu rhannau lleiaf,
hyd yr eithaf. "