Alexander Kluge - Testunau Byr

Holl straeon byrion a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Almaeneg gan Alexander Kluge. Cyfieithiadau Cymraeg: Yr Uned Gyfieithu @ Calofan Bedwyr, Pryfisgol Bangor

 

"Y crynswth o realiti, sy'n disgwyl cael ei ddweud"

 

“Fe allech ddweud fod yr holl storïau sydd wedi cael eu dweud erioed yn ffurfio byd mawr iawn. Hynny yw, byd mawr y llenyddol a byd byr y ffilmaidd. Ac yna mae yna fyd sydd rhyngddynt: byd yr opera, a bydoedd eraill. Ond y byd mwyaf yw'r hyn sydd heb ei ddweud, sy'n disgwyl cael ei adrodd. Mae hwn yn enfawr. Ac yn yr unfed ganrif ar hugain mae wedi cyrraedd maint nad oedd yn bodoli o'r blaen yn y ffordd hon. Ac fe allech ddweud bod yr amgylchiadau pendant hyn eisoes yn cynhyrchu deunydd ar gyfer eu gofod naratif eu hunain, sy'n awgrymu ffurf na allwn eto ei hadrodd, na allwn yn wir ei datrys a'i deall hyd yma - ond y dylem geisio gwneud hynny.

Mae'n rhan o ddull llenyddol ac adrodd storïau llenyddol: trwy adael cyferbyniadau'n agored - mae yna stori yma (Kluge yn dangos i'r chwith gyda'i law chwith) a stori yn y fan acw (Kluge'n dangos i'r dde gyda'i law dde) ac yna mae yna drydydd hefyd yn yr ystafell (Kluge yn pwyntio at y top gyda'i law dde) - caiff gofod naratif ei greu, nad yw'r un fath yn union ag unrhyw rai o'r storïau unigol, ond sy'n agor gofodau rhyngddynt. Yn y gofodau hyn rhwng y lleill y gellir rhagweld y gweddill, yr hyn sydd heb ei ddweud.

Rydym yn gwybod (gyda chyfarwyddwr da) bod elfen hanfodol ffilm yn digwydd oddi ar y sgrin. Mae'n rhaid ychwanegu hyn bob tro. Ac mae'n rhaid i beth bynnag y gellir ei weld ar sgrin gyfeirio tuag at rywbeth sy'n bodoli y tu hwnt i'r sgrin. Ac mae hyn yn union yr un fath ar gyfer testunau a storïau.”

Alexander Kluge: Darlith Farddas Frankfurt, 19 Mehefin 2012

 

 

 

"Mae hanes yn oedi / i roi Pwyslais" - Ben Lerner, The Lichtenberg Figures

Sut i adrodd am ddigwyddiad nad ydych yn gwybod dim amdano

 

Sut y dylwn i siarad ynghylch y cwestiwn o'r modd "y daeth y cyfnos" ar noson y 31fed o Ragfyr, 1799. Ydy hi'n farddonol gywir wrth i mi wynebu'r foment hon nad wyf yn gwybod dim amdani, i mi ysgrifennu'r hyn rwyf yn ei ddychmygu? Ydy hi'n iawn i mi ddyfeisio rhywbeth o'r fath?

  • Ydych chi wedi holi a all fod rhyw gofnodion dyddiadur neu sylwadau cyfoes ar y pwnc? Gan wybod, beth bynnag, fod Friedrich Schiller yn cerdded i gyfeiriad tŷ tref Goethe yn ystod y munudau hynny o gyfnos.
  • Ni ellid dod i unrhyw gasgliad pendant.

Mae amryw fanylion am y Dydd Calan hwnnw wedi'u cofnodi. Ond dim o gwbl am liwiau'r awyr gyda'r nos. Felly, ni ddylai unrhyw un ddyfeisio dim. Dylid gwneud pwynt o beidio â gwybod amdano. Roedd Wilhelm Voßkamp yn adnabyddus am ei drylwyredd. Gan ddilyn ei gyngor, lluniais y geiriad canlynol: Oherwydd rhyw ddiffyg amynedd torfol y penderfynodd mwyafrif y meddyliau craff, a gynhyrchwyd at ddiwedd y ddeunawfed ganrif, symud troad y ganrif i noson Rhagfyr 31ain 1799, nad oedd i'w ddisgwyl tan y flwyddyn ganlynol yn ôl y calendr. Fe wnaethant ddathlu'n ddigymell. Wn i ddim p'un a wnaeth fwrw glaw at gyda'r nos neu p'un a oedd yr awyr yn glir, fel bod ein chwaer blaned wedi ymddangos yn y gorllewin. Fe ffoniais Dr Combrink, a wnaeth chwilota ar y we. Ond gwyddwn o ymchwil flaenorol nad oes unrhyw un, yn unman, yn gwybod beth yn benodol a welodd llygaid o bump i saith o'r gloch gyda'r nos ar 31 Rhagfyr 1799. Gall cyffro'r diwrnod hwnnw fod yn un rheswm dros y diffyg arsylwi. Does dim ond gwybodaeth gyffredinol wedi cael ei chadw i ni am yr amser hwnnw. Aeth unrhyw sylwedd synhwyraidd, a oedd yn sicr yn yr isymwybod wedi effeithio ar y llygaid a theimlad y croen, ar goll yn llwyr. Cymaint o synhwyrau - cyn lleied o wybodaeth.

 

Gallwn fod wedi sôn am y grib Alpaidd a'r ffordd o Zurich i Chur, lle gorymdeithiodd y cadfridog Rwsiaidd Suvorov gyda'i fyddin. Byddai ychydig o ddamcaniaethau diogel wedi bod yn ddigon, gan nad yw'r llwybr ei hun, o ran oerni, uchder a dibynnau wedi newid fawr ddim hyd heddiw. Yn wir, oherwydd adeiladu ffyrdd newydd diweddar, mae'r hen lwybrau a hen ffyrdd traddodiadol y Swistir wrth eu hochrau wedi cael eu diogelu'n well na phe baent yn cael eu defnyddio'n barhaol. Ond does dim gwybodaeth gyfoes, dim ffynonellau, am yr emosiynau - teimladau pobl Zurich, dathliadau milwyr buddugoliaethus Massena, teimladau'r marchogion Asiaidd a oedd yn rhan o Gwmni Suvorov, chwys y magnelwyr Rwsiaidd medrus wrth iddynt lusgo'u canonau i fyny'r ffordd. Dim ond yr hyn rwyf i wedi'i ddychmygu.

 

Nid oedd pethau'n wahanol iawn yn ystod yr eiliadau wrth i'r ugeinfed ganrif lithro i'r unfed ar hugain. Hyd yn oed wrth i'r cyfryngau ddod ag adroddiadau cynnar am y tân gwyllt yn Sydney, roedd areithiau, newyddion a ffrydiau newyddion eisoes yn gorlifo'r sgriniau. Nid oedd yn werth edrych allan drwy'r ffenestr eto oherwydd ni ellid disgwyl y tân gwyllt lleol tan yn ddiweddarach. Y prif bethau oedd yn cael sylw, dyna i gyd. Ond lle bynnag roedd rhyw feiciwr unig yn beicio dros y tirwedd tuag at ei gartref, gan sylwi'n ddi-os ar y nodweddion o'i amgylch, ni roddwyd gwybod am yr argraffiadau hyn. Fe wnaethant aros yn breifat, yn ddarn o newyddion a fyddai wedi cael ei wrthod gan borthor y stiwdio radio neu deledu.

 

Ac felly, gan nad oeddwn eisiau syrthio'n brin o fanylder arloeswyr cynnar byd ffilm, sylwais na welwyd unrhyw leihad yn ystod y ddwy ganrif ers 31 Rhagfyr 1799 yn y DIFFYG SYLW SYNHWYRAIDD AR EILIADAU TYNGEDFENNOL, sef y diffyg dirnadaeth rydym yn ei alw'n arwynebolrwydd. Roedd yn ymddangos i mi nad y rheswm am hyn oedd nad oedd unrhyw un wedi ysgrifennu unrhyw beth ac felly nad oedd unrhyw archif ar gael ond, yn hytrach, ei fod yn wendid cynhenid yn ein dirnadaeth o'r foment, gwendid mewn dynoliaeth a fyddai'n estron i gamera ffilm byw. Ond fe ddigwyddodd gydag un camera o'r fath, a hynny'n union ar Ddydd Calan 2000. Bwriad y camera hwnnw oedd dim ond ffilmio cyffro'r goleuni am hanner nos, ond cafodd ei roi ymlaen yn rhy fuan ac yna'i osod yn ei gas, lle cofnododd dywyllwch drwy'r gyda'r nos. Wedyn, pan oedd ei angen am hanner nos, roedd ei fatris i gyd wedi'u defnyddio. Serch hynny, fe wnaeth rhai arlliwiau llwyd hidlo drwy'r craciau yn ei gas amddiffynnol, gan gyfleu symudiad y dyn camera'n cerdded wrth iddo ei gludo. Cafodd y cas, a oedd heb ei gau'n iawn, ei ddogfennu'n union fel yr oedd. Nid oedd y dyn camera yn gwybod beth i'w wneud ond danfon y tâp a ddefnyddiwyd. Gorffennodd yn archif y cwmni teledu ac oddi yno (ynghyd â holl ddeunyddiau eraill y gwneuthurwr ffilmiau) fe'i trosglwyddwyd i'r Archifau Ffederal fel gwaddol ddiwylliannol. Yno y mae hyd heddiw'n dystiolaeth aneglur o ansawdd lledr cas cario o'r unfed ganrif ar hugain a sensitifrwydd manwl cyfrwng recordio o'r unfed ganrif ar hugain i oleuni a thywyllwch.

 

Yn ôl i liwiau llwydion symudol yn Weimar ar noson 31 Rhagfyr 1799. Y gwahaniaeth rhwng lliw yr awyr yn Alexandria, ymhle gyda dim ond dwy awr o wahaniaeth amser roedd swyddogion o fyddin ymgyrchol Ffrainc yn dathlu'r diwrnod arbennig, a'r cymylau gwibiog i'r de o Fynyddoedd yr Harz. Gellir rhagdybio a chreu gwahaniaethau o'r fath ar gyfer pob math o amodau tywydd posib: fel prism, llu o wahanol bosibiliadau y gellir er hynny eu portreadu'n fanwl.

Mae argraffiadau o'r fath yn cysylltu digwyddiadau sydd wedi'u gwasgaru ar draws y blaned, yn annibynnol ar wybodaeth bendant. Yn wir, po leiaf y cânt eu llesteirio gan argraffiadau synhwyraidd uniongyrchol, po fwyaf gwych mae'r caleidosgop yn agor. Mae'n werth cyfleu hynny, ac felly nid oes angen i mi ddechrau paragraff cyntaf fy stori arfaethedig am Ragfyr 31 1799 (rwy'n dal yn ansicr p'un ai i'w gosod yn Weimar, Schwanebeck, neu Halberstadt), yn y ffordd rwy'n hoffi ei darllen: "Ar ddiwrnod glawog, cerddodd Cowntes F. ar hyd y Rue Saint-Honore, wedi ei lapio mewn dillad trwchus, i gyfeiriad siop lle roedd y diwrnod cynt, yn yr heulwen, wedi gweld gwisg fain a hardd ..." Yn hytrach, mae'n werth adrodd y ffaith tra oedd Goethe a Schiller yn edrych ymlaen at eu gyda'r nos gyda'i gilydd, ac yn llawn cynlluniau dirifedi ar gyfer y flwyddyn i ddod, un yn brysio, a'r llall yn disgwyl yn ddiamynedd, roedd Indios yn yr Andes yn sicr o fod yn edrych i fyny ar awyr a oedd yn estron i Goethe a Schiller ac nid oedd Japaneaid nad oeddent yn cadw at y calendr Gregoraidd yn gweld unrhyw arwyddocâd arbennig o gwbl i'r diwrnod hwnnw.

 

Pan yn blentyn roedd gan fy nhad yr arferiad cyn mynd i'r ysgol o boeri ar yr anrhegion a'r gacen a osodwyd allan ar fore ei ben-blwydd fel na fyddai ei chwiorydd a'i frawd hŷn yn ymyrryd â'i bethau. Yr un modd meddyliodd y meddyg a'r archeolegydd ifanc Dubois am y syniad o hawlio Affrica i Ffrainc drwy ddosbarthu nodweddion o wareiddiad ymysg y carafanau y credai fyddai'n croesi'r cyfandir.

"Mae'r rhain yn ddarnau ohonom ni."

Ar gyfer mentrau o'r fath, roedd platwnau Ffrengig bychain o saith dyn gydag ychydig offer yn ddigonol. Roedd haelioni yn ei gynllun. Yr un modd roedd y Ffranciaid, barbariaid fel yr oeddent, wedi meddiannu Gâl, a thrwy ddod â gwehilion cymdeithas i'r brig megis wrth aredig cae (h.y. gwneud eu meistresi tyner yn gaethweision) fe wnaethant ei gweddnewid yn ardd Duw; yn wir, trawsnewidiodd yr ardd ei hun i'r cyflwr hwn am gyfnod maith. Dyma un o straeon Blwyddyn Newydd 1799.

 

Rhagfyr

 

Camgymeriad gan Lenin a gafodd effaith ddiweddar yn Rhagfyr 2009 (ac yn Ionawr 2010)

 

Ar 14 Chwefror 1918 penderfynodd Cyngor Comisariaid y Bobl y dylid dechrau defnyddio'r calendr Gorllewinol yn Rwsia. Mor amherffaith yw grym y peirianwaith gwladol! Ni wnaeth y dull newydd o gyfri'r dyddiau fyth ddisodli'n llwyr yr hen drefn o wneud hynny. Ers amser maith mae pobl Rwsia, yn ddiarwybod, wedi bod yn cyfri eu dyddiau yn ôl yr hen ddull Bysantaidd a'r un Gorllewinol a orfodwyd arnynt yn 1918.

 

Ar ddiwedd y flwyddyn 2009 a dechrau 2010 arweiniodd hyn at y 'bwlch perfformiad economaidd'. Yn ofer y ceisiodd y Prif Weinidog Putin ddelio â'r afreoleidd-dra hwn. Gan ddilyn trefn y marchnadoedd Gorllewinol, ysgubodd y gwyliau Cristnogol dros Moscow a'r tiriogaethau tu hwnt i Fynyddoedd yr Wral. Ni ddaethant i ben, fodd bynnag, tan dri diwrnod ar ddeg yn ddiweddarach, ar ôl i lawer iawn o alcohol gael ei yfed a llu o wahoddiadau i giniawau'r gwyliau. Yna ar ben hyn i gyd roedd gŵyl arall, yr Ystwyll at 6 Ionawr, a oedd mewn gwirionedd yn ddiwrnod sanctaidd llawer pwysicach yng nghalendr yr Eglwys Uniongred ac yn gyfle am fwy o ddathliadau. Rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd cafwyd cyflenwad sylweddol iawn o rialtwch.

 

Yn ôl y mynach Bitov mae disodli realiti gan gyfres ddiddiwedd i bob golwg o ddyddiau arbennig yn drychinebu i'r corff, yr enaid a'r economi. A digwyddodd hynny i gyd oherwydd i'r llywodraeth chwyldroadol dros dro geisio rheoli amser, rhywbeth nad oes gan neb ond Duw a'r bobl yr awdurdod i'w wneud.

 

Ynglŷn â Diwygio'r Calendr

 

Rhwng gweriniaethau presennol Kyrgyzstan a Tajikistan mae yna lain cul o dir ynghanol mynyddoedd uchel. Nid oedd wedi ei farcio ar fapiau 1917 ac ni chafodd ei gofnodi gan unrhyw un o'r gweinyddiaethau diweddarach. Pan chwalodd yr Undeb Sofietaidd gadawyd yr ardal hon ar ôl. Roedd yno fynachlog Uniongred a gafodd ei gwagio ar frys bryd hynny. Arhosodd un mynach ar ôl, i warchod yr adeilad ac i barhau â gwaith y fynachlog.

 

Am ganrifoedd roedd y fynachlog hon wedi cael y gwaith o bennu'n swyddogol ddyddiadau pwysig y calendr eglwysig gan ddefnyddio croniclau i'r pwrpas hwnnw. Fodd bynnag, ni fu'r mynach unig ac anghofiedig ar ei ben ei hun yn hir. Drwy'r Rhyngrwyd mae wedi ei gysylltu â sefydliadau brawdol ledled y byd, boed yn Uniongred neu'n ysgolheigaidd. Nid yw'r byd Moslemaidd o'i gwmpas - nad yw mwyach yn ymwybodol o'r dieithryn hwn - yn ei boeni.

 

Mae'r Brawd Andrei Bitov yn rhannu'r canrifoedd mwyaf diweddar fel a ganlyn:

 

O Gytundeb Westphalia

1648 i 1789                          1 ganrif

 

O 1789 i 1792                      1 ganrif

 

O 1793 i 1815                       1 ganrif

 

O 1815 i 1870/71                 1 ganrif

 

O 1871 i 1918                       1 ganrif

 

O 1918 i 1989                      1 ganrif

fel bod gan dri chant pedwar deg ac un o flynyddoedd sylwedd pum can mlynedd.

Ar ôl hynny: y diwrnod presennol.

 

Mae'r blynyddoedd y mae Bitov yn brin ohonynt yn y cyfrifiad hwn o amseroedd modern fe'u hadferir ganddo drwy adolygu'n feirniadol ddyddio'r Oesoedd Canol. Mae Dr Herbert Illig yn cytuno ag ef ar hyn. Ceir cyfnodau wedi'u dychmygu yma, e.e. does dim prawf o fodolaeth Siarlymaen. Nid yw tua tri chan mlynedd yn bodoli o gwbl. Felly, nid yw Bitov yn cael unrhyw anhawster gyda throad y cyfnodau adeg geni Crist - rhywbeth y mae arno ei angen i gydamseru croniclau'r fynachlog.

 

Mewn cylchoedd academaidd yn yr Unol Daleithiau gwelir Bitov yn awr fel dyfeisydd Cywasgu Amser. Mae strwythur morffig i'r disgrifiad arferol o 'ganrif', h.y. mae'n gorfodi'r blynyddoedd i orbitau cylchol neu eliptigol o amgylch canol. Mae'n fympwyol eu cyfrif yn gronolegol yn ôl dyddiau, blynyddoedd. Felly mae gan dair blynedd y Chwyldro Ffrengig Mawr 'strwythur penodol', medd Bitov. Mae hynny'n eu gwneud yn ganrif ynddynt eu hunain. MAE'N RHAID CYDNABOD YR HAWL I HUNANBENDERFYNU AMSER YR UN MODD AG Y DYLID CYDNABOD HAWL POBLOEDD I HYNNY.

 

Pam y dylai'r un peth fod yn ddilys i Rwsia ag i Brydain a Ffrainc? Yma mae'r Brawd Britov yn mynd yn aflonydd. Mae pob amser yn wahanol, ac yn sicr ni ellir cymharu canrif Brydeinig a chanrif Rwsiaidd. Fodd bynnag, medd Bitov, mae amseroedd cyfandiroedd a'u trigolion wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy feysydd morffig. I'r graddau hynny mae'r AMSER CYFREDOL unwaith eto'n gydamseredig. Ac nid yw hyd yn oed yn sicr bod y Chwyldro Ffrengig Mawr o darddiad Ffrengig mewn gwirionedd. Gall oes neu amser newydd fod â'i wreiddiau mewn lleoedd eraill o ble mae'r ffenomen yn torri i'r wyneb. Rydym wedi darganfod eneidiau yn Rwsia, Canolbarth yr Almaen, yn Tashkent, a'r un modd ym Mhortiwgal a'i threfedigaethau yn Nwyrain Asia sy'n symud gyda'i gilydd.

 

Mae tanwydd yn brin yn y gaeaf ym mynachlog Bitov yn y mynyddoedd a'r ffordd orau iddo gynhesu ei ddwylo yw eu dal yn dynn yn erbyn cas ei gyfrifiadur.

 

Terfyn yr Hen Flwyddyn a'r Flwyddyn Newydd yn ôl Safonau Diwydiannol yr Almaen (DIN)

 

Ar 6 Rhagfyr 2009 daeth trafodaethau yng Ngenefa rhwng Gweriniaeth Ffederal Yr Almaen a Gweriniaeth Pobl Tsieina i gydnabod safonau diwydiannol o'r ddau du i ben heb lwyddiant. Y rheswm am hyn, ymysg pethau eraill, oedd oherwydd nad oes gan Tsiena reolau cyffredinol yn cyfateb i normau'r DIN. O ganlyniad i hyn mae'r berthynas rhwng Gweriniaeth Pobl Tsieina a'r Weriniaeth Ffederal ym materion masnach yn parhau'n amhendant.

 

Yn ôl cyfraith Yr Almaen gweithredir fel a ganlyn: Mae Rhagfyr yn dechrau gyda'r un diwrnod o'r wythnos â Medi; felly os yw 1 Medi yn ddydd Llun, felly hefyd 1 Rhagfyr. Os yw 29, 30 neu 31 Rhagfyr yn ddydd Llun, caiff y dyddiau o ddydd Llun yr wythnos galendr gyntaf eu cynnwys gyda'r flwyddyn ddilynol. Yn unol â norm y DIN yn yr achos hwn, mae wythnos galendr olaf y flwyddyn yn gorffen gyda'r dydd Sul olaf yn Rhagfyr. Os yw pobl eisiau profi un neu ddau ddiwrnod gwaith yn fwy, yna maent yn gwneud hynny y tu allan i amser. Mae sefydliadau ar y llaw arall bob amser yn symud ymlaen mewn pum deg a dwy wythnos lawn.

 

Terfysg sy'n Newid y Byd - Newyddion am yr Antipodeaid

'Byd cyfan i niwl.'

 

Treuliodd Christoph Schlingensief ei gyfnodau hapusaf yn Ynys yr Iâ - a hynny byth fwy na dwy fetr oddi wrth ei wraig Aino. Roedd yn dal yn ddirgelwch sut y cyrhaeddodd yno o Nepal heb dreulio fawr o amser yn yr Almaen. Mae popeth i fyny yn y fan honno wedi ei fwydo mewn lleithder o'r Iwerydd, gyda'r cymylau'n dod i mewn yn ddi-dor. Wrth iddo edrych ar yr ynys yn bennaf i ddibenion ffilmio ei ffilm gyfredol, roedd yn sicr y byddai gwlad y sagâu'n parhau'n ddieithr iddo am amser hir i ddod. 'Rwy'n ei chael yn haws empatheiddio efo'r hyn dwi'n gwybod leiaf amdano.'

Ffilmiodd ddyn gyda phennau adar, yn rhedeg ar y traeth. Arweiniodd hyn wedyn at frwydr corrach yn erbyn y 'Marchog gyda Phen Aderyn'. Mewn gwirionedd, fe ddylai Christoph Schlingensief fod wedi bod yn Japan bryd hynny. Daeth ei wahoddiad i ben oherwydd na wnaeth ei gymryd.

Fodd bynnag, er na ymwelodd â Japan bell, dylanwadodd 'delwedd Schlingensief o Japan' ar y deunydd ffilm a gyfaddaswyd ganddo'r diwrnod hwnnw, a oedd yn ymwneud â cylch saga Edda. Tua chanol dydd, roedd y ffilm yn ymwneud yn bennaf â niwl. Yr unig le i ffilmio niwl ym myd natur oedd yng nghyffiniau uniongyrchol y giserau. Felly, archebodd Schlingensief saith o beiriannau cynhyrchu niwl gan gwmni llogi offer ffilm yn Copenhagen. Roeddent i gael eu hedfan i mewn erbyn diwedd y prynhawn.

 

Der wiß ritter reyt also biß gegen abent

 

Marchogodd y marchog gwyn tan gyda'r nos, a daeth at dŷ gydag amddiffynfeydd o goed o'i amgylch. Clywodd forwyn yn canu'n ddiddiwedd hyfryd ac mewn llais uchel. Aeth i bensynnu a gadael i'w geffyl grwydro lle mynnai. Roedd y ceffyl wedi blino ar ôl cerdded ymhell y diwrnod hwnnw. Roedd yn ddydd Sadwrn ynghanol Awst. Eisteddodd yn ddwfn mewn myfyrdod, a chrwydrodd y ceffyl ar waun a oedd wedi sychu yn y gwres a chyda ffosydd dyfnion ar ei thraws. Roedd y ceffyl wedi llwyr flino a syrthiodd i un o'r ffosydd; yna gorweddodd ar ben y marchog am gyfnod hir. Torrodd ei darian yn dri darn, a thorrodd cefn y cyfryw hefyd. Fe wnaeth ei facwyaid ei helpu ar ei draed gydag ymdrech fawr. Roedd wedi cleisio'n ddrwg a chwynai'n arw. Marchogodd yn ei flaen a daeth i fynwent eglwys. [...] Dywed yr hanes wrthym fod Lawnslot yn anhapus iawn ac yn hiraethu'n enbyd am y ferch mae'n ei charu, ac mae'n dyheu am i'r negesydd a anfonodd ati ddychwelyd a dod â'r newydd iddo ynghylch beth sydd ganddi i'w ddweud wrtho. Ni all fwynhau pleser na chwerthin ac nid oes ganddo unrhyw bleser arall yn y byd ar wahân i ymgolli yn ei feddyliau. Nid yw'n bwyta, yfed na chysgu y dydd na'r nos, ac mae'n treulio'i amser ar ben y tŵr yn edrych o'i gwmpas, fel dyn sydd mewn trallod mawr. Nawr, fel mae'n digwydd, roedd Syr Gawain a Syr Hector wedi marchogaeth yn hir drwy Sorelois, yn holi am Galâth, a heb gael unrhyw newydd amdano, pan ddaeth merch ifanc heibio iddynt un diwrnod ar y ffordd ar geffyl hardd. Cyfarchodd Gawain hi, a diolchodd hithau iddo a gofyn i ble roeddent eisiau mynd. 'Ni allwn gael hyd i'r hyn rydym yn chwilio amdano,' meddai Gawain. 'Am beth rydych yn chwilio?' 'Rydym yn chwilio am Galâth, ferch annwyl,' meddai Gawain, 'arglwydd y tir hwn, ond ni allwn gael hyd i unrhyw un i ddweud unrhyw beth wrthym amdano.'

 

Gweddillion hen straeon mewn stori arwrol o'r oesoedd canol

 

Gawain, y 'tafod aur'. Mae Anselm Haverkamp yn tynnu sylw at ddernyn Shakespearaaidd lle gelwir Syr Gawain yn ‘a coppery oddment of the hero Ulysses’. Mae Gawain yn gwybod sut i 'drefnu ei eiriau fel Ulysses, ond hefyd i guddio'r hyn mae'n ei ddweud dan lawer o eiriau.' 'Mae'n dweud celwydd fel aur.' Mewn Hen Gelteg, mae neats yn golygu GWLYBANIAETH. Mae neits yn golygu ARWR. Yn seinegol mae'n anodd gwahaniaethu rhwng y ddau air. Caiff yr arwr ei dasgau gan frawd ei fam; tasg famol, mewn geiriau eraill.

Mae Gawain yn ymladd yn erbyn gwrachod Caerloyw. Mae'n mynd a'i long drwy niwloedd Ynysoedd Faroe. Ef yw'r pedwerydd ar y chwith, yn glocwedd, wrth fwrdd crwn y Brenin Arthur. Mae'n ffyddlon, er y gall ei dafod cyfrwys achosi brad ar unrhyw adeg. Cyfeiria Haverkamp ato fel 'math o wrth-Macbeth'. Nid yw'n cael hyd i'r Greal Sanctaidd, ond mae'n rhyddhau cant o ferched wedi'u carcharu. Dim ond yng nghwmni Parsifal a Lawnslot (y ddau sawl lle'n is i lawr y bwrdd) y mae'n cyrraedd mynydd y Greal. Yno, mae'n cipio'r cleddyf a ddefnyddiwyd i dorri pen Ioan Fedyddiwr. Cedwir y cleddyf yn naeargell Eglwys Gadeiriol Halberstadt. Mae'n priodi â Florie o Syria. Mae eu mab Wigalois yn hanner Celtaidd, hanner Phoeniciaidd.

Gawain yw gwrthwynebydd Marchog y Llusern. Yn Stori'r Ci Clustiau Byr, mae'n rhyddhau Alastrann y Gwych - sydd wedi cael ei drawsnewid yn gi - brawd y swynwyr sy'n troi allan i fod yn Farchog y Llusern.

Mae Gawain yn addo helpu ei ffrind Pelleas, sy'n caru Arcade hardd. Mae'n ymweld ag Arcade gyndyn gan honni ei fod wedi lladd Pelleas, yn y gobaith y bydd hynny'n gyfrwng i danio cariad y ddynes ifanc. Fodd bynnag, mae'n syrthio mewn cariad â hi'r un noson, a chaiff Pelleas hyd i'r ddau ohonynt yn gorwedd gyda'i gilydd yn y llofft. MAE'N GOSOD EI GLEDDYF RHWNG Y DDAU GARIAD SY'N CYSGU. Fore trannoeth, mae Gawain yn gweld ei fod wedi gweithredu'n anghywir ac mae'n arwain Arcade at ei ffrind.

 

Mantais camddealltwriaeth

 

Rwy'n un o gynorthwywyr Georges Didi-Huberman. Rwy'n helpu i osod ei arddangosfa yn y Louvre. Mae'n ymwneud â pharhad Mnemosyne Atlas Aby Warburg yn yr unfed ganrif ar hugain. Gan mai Ffrancwr wyf, mae'n rhaid i mi deimlo fy ffordd i mewn i lawer ohono i ddechrau.

Mae haen o groen tenau dros fy llygaid dde a does dim modd cael llawdriniaeth i'w dynnu. Rwy'n gweld yn aneglur. Dwi'n darllen yn y catalog (yn rhannol oherwydd ei fod mewn print italig ac yn fân): A GREAT MIGHT DOWN THE DRAIN. Mewn gwirionedd, rwy'n gweld rhywbeth fel blaen roced yn y darlun. Mae'r glust chwith yn hongian o ben yr ysbryd yn ymddangos yn rhy fawr i mi. Fel hwnnw o Sant Sierôm 'yn ei ystafell astudio, yn gwrando ar ddurtur'. Dyna sut yr ysgrifennais fy nisgrifiad o'r darlun. Ond enw'r darlun oedd A GREAT N IGHT DOWN THE DRAIN. Rwy'n gwrthod ag ailysgrifennu fy nisgrifiad, dim ond oherwydd camddealltwriaeth.

 

Safonau Marw

 

Gan fartsio o flaen ei ddynion, ac yn feddw gan adrenalin, treuliodd August Stramm, bardd ac arweinydd bataliwn, dri diwrnod olaf ei fywyd yn Rwsia. Roedd brwdfrydedd yr ymgyrch, allan o fylchau'r Mynyddoed Carpathaidd ac i'r gwastadedd, wedi gwirioneddol danio ei ysbryd. Roedd hyn wedi gwneud y bardd a'r milwr profiadol yn fwyfwy beiddgar a dall i berygl. Yn wir, roedd yn ysgornio'r gelyn ac yn ystyried ei hun yn anorchfygol i bob pwrpas.  Cariai ei gnapsach o flaen ei frest fel pe bai hynny'n fodd i'w amddiffyn. Ond wrth nesau at lecyn corsiog, cafodd ei daro gan gawod o fwledi. Nid oedd ef na'i filwyr wedi dychmygu o gwbl y gallai gelyn fod yn llechu yno.

Mewn darn a losgodd mewn pwl o dymer yn y 70au, disgrifiodd Arno Schmidt fel y cludwyd y dyn hanner marw yma am driniaeth, gyda'r gwaed yn gymysg â mwcws yn llifo o'i saith dolur. Roedd y bardd bellach yn ddiymadferth ar y stretsier. Fe'i cariwyd gan ddau o'i gyfoedion. Pe bai'r orsaf cymorth cyntaf wedi symud i fyny i'r ffrynt, fel y gorchmynnwyd y noson cynt, yn hytrach nag aros ar ôl yn y mynyddoedd, byddai meddyg milwrol wedi medru achub, o leiaf yn rhannol ac adfeiliedig, y dyn yma roedd ei eiriau'n rhewi yn ei ben. Er mewn cadair olwyn, heb allu defnyddio na breichiau na choesau, byddai'r 'gŵr doeth' hwn wedyn wedi gallu cofnodi profiad ei ymgyrch olaf trwy ei harddweud wrth eraill. Yn ôl Arno Schmidt, roedd y bardd wedi eistedd yn llawn chwerwedd yn ei ystafell fyw mewn rhyw dref Almaenig ddi-enw; gallai fod wedi clodfori'n wael ddyfodiad y gwanwyn neu ymgyrchoedd y gweithwyr, yn hytrach na'r rhyfel. Fodd bynnag, yn ôl Schmidt, roedd meddygon, staff nyrsio a chludwyr yr orsaf gymorth cyntaf Awstro-Hwngaraidd honno, yn agos at y llinell flaen, wedi bod yn yfed yn drwm y noson cynt, gan ei gwneud yn amhosib iddynt gychwyn yn fuan ar fore'r frwydr. Yr oedi hwn a barodd i anafiadau Stramm fod yn rhai angheuol.

Beth bynnag, ysgrifennodd Schmidt, nid fel hyn yr hoffai fod wedi marw. Fodd bynnag, dyna’n union ddigwyddodd mewn gwirionedd, pan lithrodd ei ysbryd ymaith yn ystod y dyddiau rhwng 31 Mai a 3 Mehefin 1979. Dihoenodd yn raddol, yn ddim byd mwy na llwyth o fater, mewn gofal dwys yn rhyw dref yng Ngogledd yr Almaen. Nid oedd yr ysbyty’n barod am y poeta laureatus.